Organig • Mewnbwn Isel • Agroecoleg

Ein Cleientiaid

Ardystio Bwyd Cymreig Safonol

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth i staff ac aelodau un o brif gyrff rheoli organig Cymru gan sicrhau bod yr aelodau a’r staff ardystio’n hysbys ynglŷn â’r newidiadau rheoleiddio diweddaraf a’u goblygiadau ar lefel y DU a’r UE ynghyd â’r datblygiadau diweddaraf yn y byd ffermio a bwyd organig yn ehangach.

Fferm Organig Penbryn

Un o’n prosiectau mwyaf cyffrous yw cefnogi arallgyfeirio’r fferm ddefaid fynydd organig hon ger Tregaron i arddwriaeth. Rydym yn darparu gwasanaethau cynllunio cnydau, cyngor technegol a chymorth ymarferol uniongyrchol.

Canolfan Organig Cymru

Organic Centre WalesAc yntau yn un o brif aelodau staff y Ganolfan am 15 mlynedd bron, mae Tony yn dal i gefnogi’r agweddau polisi ar waith y Ganolfan fel is-gontractwr.

Cynghrair y Tyfwyr Organig

Organic Grower AllianceMae Tony ar bwyllgor yr unig sefydliad yn y DU sy’n cynrychioli cynhyrchwyr garddwriaethol organig. Mae’n gyfrifol am reoli’r aelodaeth a datblygu polisi a gwaith eirioli’r sefydliad yng Nghymru.

Rhwydwaith y DU dros Amaethyddiaeth â Chefnogaeth y Gymuned

Yn gefnogwr ymroddgar ac effeithiol i Amaethyddiaeth â Chefnogaeth y Gymuned, Tony yw ysgrifennydd ac un o gyfarwyddwyr y Rhwydwaith yn y DU ers iddo gael ei lansio yn 2013. Gyda chyfrifoldeb am yr aelodaeth a datblygu ei bolisi a’i raglen eirioli, mae’n aelod allweddol o’r sefydliad.