Organig • Mewnbwn Isel • Agroecoleg

Amdan Ymgynghoriaeth Ffermio Gynaladwy

Tony-Little-Sustainable-Farming-Consultant

Mae’r Ymgynghoriaeth Ffermio Gynaliadwy yn cynnig cymorth a chyngor ar bob agwedd ar gynhyrchu organig, gydag ychydig fewnbynnau ac sy’n seiliedig ar amaeth-ecoleg. Ymhlith ein cleientiaid mae ffermwyr a thyfwyr, cyrff ardystio organig, sefydliadau cynrychioladol, Cymdeithas y Pridd a Chanolfan Organig Cymru.

Perchennog a rheolwr y fenter yw Tony Little sy’n gweithio ers 18 mlynedd ym maes amaethyddiaeth organig a chynaliadwy yn y DU ac yn rhyngwladol ac sy’n aelod o’r Sefydliad Hyfforddi a Chynghori Organig.  Astudiodd  Wyddorau Amaethyddiaeth ac Amgylcheddol ym Mhrifysgol Newcastle upon Tyne ac mae ganddo Radd Feistr mewn rheoli plâu cnydau o Goleg Ymerodrol Llundain.

Bu’n ffigwr allweddol yng Nghanolfan Organig Cymru am 15 mlynedd bron ac mae ganddo brofiad mewn cynhyrchu cnydau a da byw organig yn y DU a thramor. Mae’n gweithio rhan-amser ar fferm ddefaid organig ger Tregaron y mae’n ei harallgyfeirio i arddwriaeth.

Mae’n byw ac yn gweithio yng ngorllewin Cymru ers 15 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi dod i werthfawrogi ac  ymserchu yn y diwylliant Cymreig. Mae’n gallu siarad a deall tipyn go lew o Gymraeg ac mae ymhell ar ei ffordd i fod yn rhugl; yn y cyfamser, mae’n diolch i siaradwyr Cymraeg am eu hamynedd!

Lawrlwythwch C.V Tony