Cynhyrchwyr
Gyda phrofiad ymarferol mewn rheoli cnydau a da byw, 11 mlynedd wedi’u treulio’n darparu gwasanaethau cymorth i ffermwyr organig yng Nghymru (gan gynnwys Cyswllt Ffermio a’r Gwasanaeth Gwybodaeth am Droi’n Organig) a gwybodaeth fanwl am Glastir Organig Sylfaenol ac Uwch, rydym mewn sefyllfa unigryw i gefnogi cynhyrchwyr. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau cynghori ac yn paratoi ceisiadau i gynlluniau’r Cynllun Datblygu Gwledig.
Cyrff Ardystio
Mae ein dealltwriaeth fanwl o egwyddorion a safonau organig, a’r rôl ganolog a chwaraeodd Tony wrth ddatblygu cynlluniau cymorth organig cyfredol ac yn y gorffennol yng Nghymru, yn golygu ei fod mewn sefyllfa unigryw i gefnogi cyrff ardystio organig gan gynnwys darparu cefnogaeth a hyfforddiant i arolygwyr a staff ardystio eraill.
Cynghorwyr ac Ymgynghorwyr
Yn gwmni bach, rydym bob amser yn cadw llygad am sefydliadau ymgynghori eraill i gydweithio â nhw, mewn partneriaeth neu fel isgontractwyr. Mae Tony yn aelod o IOTA ac mae ganddo gysylltiadau ardderchog â chynhyrchwyr, busnesau bwyd, ardystwyr a llunwyr polisi organig.
Sefydliadau Ymchwil a Datblygu
Mae gan Tony raddau mewn Gwyddorau Amaethyddol ac Amgylcheddol (BSc) a Rheoli Plâu a Chlefydau (MSc) ac mae ganddo 18 mlynedd o brofiad yn gweithio ar brosiectau datblygu yn y DU a thramor, sy’n golygu ein bod mewn lle da i gyfrannu i ystod eang o brosiectau Ymchwil a Datblygu.